Gweithdy Matts

AI yn y Gweithle Rhan 2

Gweithgaredd y Gweithdy · 5 munud Sbrint Darganfod AI Dewch o hyd i'ch arbrawf AI nesaf: a allai hyn fod yn ddefnyddiol?
Dechrau’r sbrint ↗

✓ Ym Mhrifysgol Caerdydd: Mae Gemini a NotebookLM wedi'u cymeradwyo ar gyfer data cyfrinachol (C1/C2), ond dim ond pan fyddwch yn mewngofnodi â'ch cyfrif PC (cardiff.ac.uk).

• Ar gyfer sefydliadau eraill: dylech eu trin fel offer dysgu personol, cadwch at ddata gwaith cyhoeddus, nad yw'n gyfrinachol.

Llyfrgell Promptiau Gemini

Ymarferion Gemini a Phromptiau yn y Gweithle

Rhan 1
Cliciwch i agor Gemini gemini.google.com ↗ Cliciwch i agor NotebookLM notebooklm.google.com ↗
Cliciwch "Sgwrs Newydd" yn Gemini rhwng tasgau. Defnyddiwch eich cyfrif Prifysgol Caerdydd ar gyfer data gwaith.

Mae'r tagiau lliw isod yn cyfateb i'r marcwyr adran yng nghornel y sleidiau, felly gallwch bob amser weld lle rydyn ni yn y sesiwn.

01Esbonio fel petawn i’n 5 (ELI5)Rhan 1
Cais: Deall pynciau cymhleth yn gyflym neu hyd yn oed dogfen wedi’i lanlwytho
"Esbonia [PWNC] i mi fel petawn i'n 5 (ELI5)"

Amnewidiwch [PWNC] am: "cyfrifiadura cwmwl", "DNA", "ffiseg cwantwm", "rheol camsefyll mewn pêl-droed", ac ati. Neu yn lle pwnc, lanlwythwch ddogfen megis eich polisi teithio, a gofynnwch iddo ei egluro.

02Lanlwytho ac adolygu cynigion am grantiauRhan 2
Cais: casglwch ychydig gynigion o’r gorffennol: un wedi'i ariannu, un aflwyddiannus, sylwadau adolygydd. Lanlwythwch nhw i Gemini ynghyd â'r prompt hwn. Dim cynigion wrth law? Bydd unrhyw ddogfennau gwaith hir yn gwneud y tro.
Adolyga’r cynnig/cynigion sydd wedi’u lanlwytho a noda’r adrannau a oedd fwyaf tebygol o fod wedi achosi pryder i adolygydd neu ei siomi. Chwilia am: honiadau amwys ynghylch effaith, honiadau di-sail, disgrifiad gwan o fethodoleg, eitemau cyllideb heb eu cyfiawnhau, neu anghysondeb o ran blaenoriaethau cyllidwr tebygol. Rhestra bob gwendid ac awgryma beth y byddai fersiwn gryfach yn ei gynnwys.

Mae pedwar prompt adolygu arall (testun ailddefnyddiadwy, yr hyn a weithiodd, ymadroddion allweddol, strwythur) i’w cael yn yr adran NotebookLM ymhellach i lawr y dudalen.

03Yr un ffeiliau, nawr yn NotebookLMRhan 2
Cais: teimlwch y gwahaniaeth rhwng sgwrs eang ac atebion wedi'u gwreiddio yn eich ffynonellau. Crëwch lyfr nodiadau ar notebooklm.google.com, ychwanegwch yr un ffeiliau, a rhedwch yr un prompt o Enghraifft 02. Yna gofynnwch y camau dilynol.
Pa un o'th atebion ddaeth o ba ddogfen? Rhestra bob canfyddiad gyda’r ffynhonnell mae'n seiliedig arni, a thynna sylw at unrhyw beth na allet ei olrhain i ddogfen benodol.

Dim ond o'r ffynonellau a roesoch iddo mae NotebookLM yn ateb, ac mae’n eu dyfynnu.

04Rhoi Deep Research ar waithRhan 3
Cais: rhowch dasg ymchwil i Gemini a chael adroddiad seiliedig ar ffynonellau yn ôl. Trowch ymlaen Deep Research dan y blwch promptiau yn y ddewislen offer, gludwch hwn, a gwiriwch y cynllun y mae'n ei ddangos i chi cyn iddo ddechrau. Gallwch olygu'r cynllun hwn.
Dw i'n gweithio mewn prifysgol. Ymchwilia i sut y mae prifysgolion y DU yn defnyddio AI cynhyrchiol i gefnogi staff ar draws gwasanaethau addysgu, ymchwil a phroffesiynol, a llunia friff byr seiliedig ar ffynonellau sy'n cwmpasu’r canlynol: y pum datblygiad pwysicaf yn ystod y 12 mis diwethaf; beth sy'n newid ar hyn o bryd; a thri pheth ymarferol y dylai tîm fel f’un i ystyried rhoi cynnig arnynt. Dyfynna dy ffynonellau drwyddi draw fel y galla i eu gwirhau.

Ymhellach i lawr y dudalen yn yr adran Deep Research ceir dau brompt llawnach seiliedig ar rolau (gwasanaethau academaidd a phroffesiynol).

05Troi dogfen yn ddelweddRhan 4
Cais: cyrchwch ddelwedd ar ffurf sleid barod o ddeunydd sydd gennych eisoes. Dewiswch Creu delwedd yn y ddewislen offer, lanlwythwch ddogfen (neu arhoswch yn eich sgwrs ar grantiau), a gofynnwch.
Gan ddefnyddio'r ddogfen atodedig, crea ffeithlun glân, syml sy'n esbonio [DEWISWCH ADRAN NEU BWNC] i gynulleidfa gyffredinol. Cefndir gwyn, un lliw pwyslais, labeli darllenadwy mawr, dim annibendod.

Mae mwy o syniadau ar gyfer delweddau (golygu lluniau sydd gennych yn barod, posteri dwyieithog) yn yr adran Nano Banana ymhellach i lawr y dudalen.

06Adeiladu offeryn bach yn CanvasRhan 4
Cais: gorffen gyda'r waw: offeryn gwe gweithredol o un prompt. Dewiswch Canvas o'r ddewislen offer, atodwch ddogfen bolisi neu ganllawiau, a gludwch hon neu’r rhain.
Crea ap gwe cwis rhyngweithiol un dudalen sy'n profi staff ar bwyntiau allweddol y ddogfen atodedig. Pum cwestiwn amlddewis, adborth cyfeillgar ar ôl pob ateb, a sgôr ar y diwedd. Defnyddia Tailwind CSS a Vanilla JavaScript mewn un ffeil HTML.

Mae dau adeiladwaith Canvas arall (amcangyfrifyn hawliadau am dreuliau, a delweddwr cysyniadau rhyngweithiol) yn yr adran Canvas ymhellach i lawr y dudalen.

Mae'r promptiau y byddwch yn debygol o’u defnyddio amlaf, beth bynnag yw eich rôl, yn dod gyntaf. Mae’r rhai mwy rôl-benodol wedi'u tagio a'u grwpio oddi tanynt: Gwasanaethau proffesiynol, yna Academaidd.

Dadleuydd y diafol (mannau dall)
Cais: Cyn eu cwblhau, profwch eich heriau, eich syniadau newydd neu eich penderfyniadau ar gyfer straen.
"Gweithreda megis dadleuydd adeiladol ar gyfer y diafol. Yn gyntaf, noda wendidau posibl neu fannau dall, ac yna awgryma safbwyntiau amgen. Bydd yn benodol ac yn heriol ond yn adeiladol. Fy senario yw: [senario yma]"

Ychwanegwch eich senario eich hun: "Mae arna i eisiau symud o werthu i rôl arweinyddiaeth", "delio â chleient anodd"; darparwch rywfaint o gyd-destun defnyddiol hefyd. Gallech lanlwytho dogfen yn hytrach na theipio senario, e.e. lanlwytho eich polisi teithio newydd. Yna arbrofwch â thrawsgrifiad cyfarfod, ffeil Excel neu hyd yn oed PowerPoint.

Hidlwch ddogfen i'ch rôl
Cais: Lanlwythwch ddogfen a thynnu allan y tasgau, y dyddiadau cau, a'r manylion sy'n berthnasol i'ch swydd yn unig.
Darllen y Ddogfen hon o safbwynt [MEWNOSODWCH Y RÔL YMA, e.e. rheolwr prosiectau]. Dim ond yr wybodaeth, yr eitemau gweithredu a'r dyddiadau cau a fyddai'n effeithio ar fy rôl y dylet eu tynnu allan.

Atodwch eich dogfen i Gemini, gludwch y prompt hwn, a disodlwch y testun yn y cromfachau â theitl eich swydd wirioneddol er mwyn anwybyddu’r manylion amherthnasol ar unwaith.

Crynhoi nodiadau cyfarfod
"Crynhoa’r trawsgrifiad canlynol o gyfarfod os gweli’n dda. Canolbwyntia ar y pwyntiau allweddol, y penderfyniadau a wnaed, yr eitemau gweithredu ac unrhyw ddyddiadau cau pwysig. Gwna’n siŵr bod y crynodeb yn glir ac yn drefnus. Ni ddylai'r crynodeb fod yn hwy na 200 o eiriau. [MEWNOSODWCH Y TRAWSGRIFIAD YMA]"
Ailysgrifennu unrhyw beth mewn Saesneg plaen
Cais: gludwch bolisi, papur ymchwil, adroddiad neu drawsgrifiad cyfarfod a chael fersiwn y gall unrhyw un ei deall ar un darlleniad.
Rwyt yn gyfathrebwr arbenigol sy'n ailysgrifennu testun arbenigol ar gyfer cynulleidfa gyffredinol. Pan fydda i’n rhannu unrhyw destun, dogfen bolisi, papur ymchwil, adroddiad neu drawsgrifiad cyfarfod, dw i am i ti ei ailysgrifennu fel y gall darllenydd heb gefndir yn y pwnc ei ddeall mewn un darlleniad. Dilea unrhyw jargon neu ei esbonio’n fyr. Gwna frawddegau’n fyrrach. Rho’r arwyddocâd yn y byd go iawn gyntaf. Dilea’r cymalau nodweddiadol o AI, a’r llais goddefol. Ar ôl ailysgrifennu, noda’r canlynol: y tri newid pwysicaf a wnest ti a pham; ac unrhyw dermau technegol y dewisaist eu cadw a pham. Paid â newid yr ystyr na gadael cynnwys pwysig allan.
Dadansoddi ffeil Excel
Cais: troi taenlen amrwd yn grynodeb wedi'i wirhau, yna’n siart, a hynny mewn dau gam cyflym.

1. Crynodeb wedi'i wirhau

Crynhoa’r ffeil Excel hon. Defnyddia god (Python) i gyfrifo'r ffigurau; paid â'u hamcangyfrif. Rho i mi’r canlynol: 1. Trosolwg: rhesi, colofnau a'r ystod dyddiadau 2. Rhifau allweddol: cyfansymiau, cyfartaleddau, uchafbwyntiau ac isafbwyntiau 3. Tri mewnwelediad gwerth eu gwybod Yna dangos y cyfansymiau ddefnyddiwyd gennyt a chroeswiria nhw cyn i ti ateb. Defnyddia Saesneg busnes plaen.

2. Siartio'r duedd

Nawr siartia’r duedd bwysicaf yn y data hyn, ac esbonia mewn dau bwynt bwled beth y mae'n ei olygu i reolwr.

Rhedwch gam 1, yna gludwch gam 2 i’w ddilyn. Gofyn i'r AI gyfrifo mewn cod a chroeswirio ei gyfansymiau yw'r hyn sy'n ei atal rhag dyfeisio rhifau.

Categoreiddio testun neu adborth
"Dadansodda’r golofn [Enw'r golofn Adborth]. Ychwanega golofn newydd o'r enw 'Categori'. Dosbartha bob rhes i un o'r categorïau penodol hyn yn union: 'Iawndal', 'Rheolaeth', 'Amgylchedd Gwaith', 'TG/Offer', neu 'Cydbwysedd Gwaith-Bywyd'. Os nad yw'r adborth yn cyd-fynd â'r rhain, rho’r label 'Arall' iddo."
Chwarae rhan ar gyfer sgyrsiau anodd
Cais: Defnyddiol ar gyfer dysgu, neu i baratoi ar gyfer cyfarfod sydd i ddod. Ymarfer adolygiadau o berfformiad neu ddatrys gwrthdaro mewn man diogel.
"Chwarae rhan: Ti yw Mrs. Gwenwyn, fy nghymydog blin sy’n curo am 2 o’r gloch y bore i gwyno am fy nghathod swnllyd (Huddug, Sinsir, Gwladys). Fi yw perchennog ffraeth y cathod, a dw i’n ceisio dy dawelu a dwyn perswâd arnat. Aros mewn cymeriad ac aros am f’atebion."
Dileu sentimentaliaeth AI (canllaw ar arddull)
Cais: Ychwanegwch hyn at waelod unrhyw brompt i atal yr AI rhag crwydro, a gwnewch iddo ysgrifennu testun clir, uniongyrchol a naturiol.
[MEWNOSODWCH Y DASG I’R AI YMA, e.e.Ysgrifenna adroddiad ar dueddiadau marchnata modern] CYFYNGIADAU O RAN ARDDULL A GOSLEF Cymhwysa'r rheolau llym hyn i'r dasg uchod: * Llais: Rhaid i ti siarad ag awdurdod uniongyrchol. Defnyddia lais gweithredol yn unig. Rhaid i ti hepgor pob meta-sylwebaeth (e.e. paid â dweud "Dyma'r adroddiad"). * Geiriau Gwaharddedig: Dim adferfau. Dim jargon busnes. Dilea’r holl eiriau llenwi a phwysleisio ("iawn," "eithriadol," "mewn gwirionedd"). * Dechrau Brawddegau Gwaharddedig: Paid byth â dechrau brawddeg gyda Pwy, Beth, Ble, Pryd, Pam, Pa un, neu Sut. * Atalnodi a Llif: Paid byth â defnyddio llinellau em (—); rhaid i wahanu syniadau gan ddefnyddio colonau neu atalnodau llawn yn lle llinellau em. Osgoa osodiadau rhethregol, cyferbyniadau deuaidd, a darnau clogyrnaidd.

Gludwch y bloc cyfyngiadau hwn ar waelod eich promptiau safonol i wella ansawdd yr allbwn ar unwaith. Gwnewch yn siŵr eich bod yn disodli'r testun mewn cromfachau ar y brig â'ch tasg go iawn.

Gadael i AI ysgrifennu'r prompt
Cais: Cael yr AI i ddylunio prompt arbenigol ar gyfer tasg yn eich parth, e.e. 'brysbennu negeseuon e-bost i’r ddesg cymorth TG'.
"Rwyt ti’n ddylunydd promptiau AI arbenigol. Dw i am i ti ddylunio'r prompt mwyaf effeithiol i: [MEWNOSODWCH DASG A PHARTH PENODOL]. Ystyria pa elfennau allweddol, meini prawf neu fanylion sy'n bwysig, pa fformat allbynnu sydd orau i’w roi ar waith, a pha gamau rhesymu sy'n hanfodol."
Ôl-beiriannu unrhyw gynnwys sy'n bodoli eisoes

Un prompt ailddefnyddiadwy sy'n clonio edrychiad, teimlad, llais a strwythur unrhyw ddogfen y byddwch yn ei lanlwytho.

Dadansodda’r enghraifft dw i wedi'i lanlwytho: gallai fod yn ddogfen, yn ddelwedd, neu’n wefan. Noda beth sy'n gwneud ei harddull yn unigryw: goslef ei llais, ei geirfa, strwythur ei brawddegau, y fformatio, a’r cynllun. Ysgrifenna un prompt ailddefnyddiadwy y gallaf ei ddefnyddio eto gyda deunydd newydd i lunio fersiynau newydd ac iddynt yr un edrychiad, a’r un teimlad a strwythur. Ar waelod y prompt hwnnw, ychwanega’r dalfan [GLUDWCH Y CYNNWYS NEWYDD YMA] lle bydd y deunydd newydd yn mynd. Dw i am i ti allbynnu’r prompt ailddefnyddiadwy’n unig, dim byd arall.

Lanlwythwch eich enghraifft, yna rhedwch y prompt hwn: enghraifft i mewn → AI yn dadansoddi'r patrwm → prompt ailddefnyddiadwy allan.
Mae’n gweithio ar unrhyw beth ac iddo batrwm: dogfennau, deciau sleidiau (PowerPoint), gwefannau, delweddau, adroddiadau, gweithdrefnau gweithredu safonol, trawsgrifiadau.

Dadansoddi sylwadau arolygon testun rhyddGwasanaethau proffesiynol
Cais: darllenwch gannoedd o sylwadau arolygon agored ar unwaith a chodwch y pryderon sy'n dod i’r amlwg fwyaf i’r wyneb.
Rwyt ti’n swyddog cymorth myfyrwyr sy'n adolygu'r arolwg llesiant blynyddol. Darllen yr holl sylwadau testun rhydd isod (dros 400 o ymatebion) a thyrd o hyd i'r pryderon mae myfyrwyr yn eu mynegi amlaf. Bydd yn empathig, a sicrha dy fod yn cael dy lywio gan ddata, ac yn canolbwyntio ar les y myfyrwyr. Rho restr bwled i mi o'r pum prif bryder. Yn achos pob un, awgryma pa faes polisi neu gymorth ddylai ei adolygu. [GLUDWCH Y SYLWADAU TESTUN RHYDD]
Crynhoi dogfen rheoleiddiwr ar gyfer eich bwrddGwasanaethau proffesiynol
Cais: troi rheoliad neu ddogfen gydymffurfio drwchus yn grynodeb parod i'r bwrdd ac ynddo gwestiynau gwerth eu trafod. Atodwch y ddogfen, a chyfnewid unrhyw bapur polisi.
Persona: Dadansoddwr polisïau arbenigol. Tasg: Dadansodda’r atodedig [dogfen reoleiddiol newydd gan Medr] a chrynhoa ei themâu canolog a'i risgiau sefydliadol allweddol. Yna llunia dri chwestiwn strategol i annog meddwl beirniadol. Cyd-destun: Bydd y crynodeb a'r cwestiynau’n cael eu defnyddio gan [Bwrdd Gweithredol y Brifysgol] i ddeall y cyd-destun ehangach ac i baratoi ar gyfer newidiadau sydd i ddod. Fformat: Crynodeb ar ffurf bwledi ac yna restr wedi'i rhifo o'r tri chwestiwn strategol.
Ailgynllunio proses o amgylch ei defnyddwyrGwasanaethau proffesiynol
Cais: ailfeddwl am unrhyw broses o safbwynt y bobl sy'n ei defnyddio’n go iawn. Cyfnewidiwch eich proses a'ch proffiliau eich hun.
Persona: [Cyfarwyddwr Cyllid] Tasg: Adolyga'r broses gyfredol ar gyfer hawlio am dreuliau, gan awgrymu newidiadau i'r llif gwaith cymeradwyo, gofynion y ddogfennaeth a’r dulliau cyflwyno. Cyd-destun: Mae angen i'r broses gefnogi tri phroffil staff penodol: [gweithiwr newydd, ymchwilydd sy'n hawlio treuliau ar gyfer teithio rhyngwladol, a chontractwr dros dro]. Fformat: Dadansoddiad strwythuredig â phennawd clir ar gyfer pob proffil staff, gan ddefnyddio pwyntiau bwled ar gyfer y newidiadau gofynnol.
Cynllunio tri diwrnod cyntaf dechreuwr newyddGwasanaethau proffesiynol
Cais: amserlen gynefino sy’n barod ar gyfer ei haddasu fel bod pob cyd-weithiwr newydd yn cael yr un dechrau da.
Persona: Cydlynydd cynefino gweithwyr. Tasg: Drafftia amserlen dri diwrnod fanwl, a rhestr wirio i gyd-fynd â hi, ar gyfer cynefino aelod newydd o staff, gan integreiddio sesiynau Adnoddau Dynol, TG ac adrannol. Cyd-destun: Mae arnom angen dechrau di-dor, cynhwysfawr i [academyddion] ymuno â'r sefydliad y semester hwn. Fformat: Amserlen ddyddiol wedi'i rhifo ac iddi slotiau amser, yr adnoddau gofynnol, a'r cyswllt cyfrifol ym mhob adran ar gyfer pob eitem.
Dadansoddi trawsgrifiad grŵp ffocwsAcademaidd
Cais: troi recordiad hir o grŵp ffocws yn themâu a theimladau y mae ar arweinwyr cyrsiau eu hangen.
Rwyt ti’n gynorthwyydd marchnata sy'n trawsgrifio recordiad o grŵp ffocws myfyrwyr ar gyfer arweinwyr cyrsiau. Darllena’r trawsgrifiad atodedig o drafodaeth 60 munud gan grŵp ffocws ar y cwrs newydd. Noda'r prif themâu a'r teimlad cyffredinol ynghylch y cwrs. Bydd yn wrthrychol ac yn ddadansoddol, megis mewn ymchwil i'r farchnad. Rho grynodeb ar ffurf bwledi i mi: - Y tair brif thema gadarnhaol - Y tair brif thema negyddol [GLUDWCH NEU ATODWCH Y TRAWSGRIFIAD]
Newidiadau i fodiwl sy'n seiliedig ar dystiolaethAcademaidd
Cais: troi adroddiad ar adborth myfyrwyr yn newidiadau penodol y dylai darlithydd eu rhoi ar waith y tro nesaf.
Yn seiliedig ar yr [adroddiad ar adborth myfyrwyr] beth yw'r tri newid pwysicaf y dylai'r darlithydd hwn eu rhoi ar waith cyn cynnal y modiwl hwn eto? Bydd yn benodol ynghylch beth yn union y mae gofyn ei newid a pham.
Cymharu dulliau marcio a graddoliAcademaidd
Cais: cymhariaeth seiliedig ar dystiolaeth i lywio asesiad neu broses ailgynllunio modiwl.
Persona: [Darlithydd prifysgol] ac ymchwilydd addysgol. Tasg: Cymhara systemau graddoli amgen ym maes addysg uwch, gan ganolbwyntio ar [dad-raddoli, graddoli seiliedig ar feistrolaeth, a graddoli dan gontract]. Tynna sylw at ymchwil ar ganlyniadau, ymgysylltiad myfyrwyr a llwyth gwaith staff. Cyd-destun: Dw i'n ailgynllunio fy modiwl ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod ac mae arnaf angen ymarfer seiliedig ar dystiolaeth i lywio fy strategaeth asesu. Fformat: Tabl cymharol, gyda chrynodeb byr o'r ymchwil yn dilyn.
Sgorio cynnig am grant (panel UKRI)Academaidd
Cais: asesu drafft grant yn unol â meini prawf cyllidwr, gyda'r sgoriau a'r pwyntiau gwan yn fwyaf tebygol o achosi gwrthodiad.
Rwyt ti’n adolygydd cymheiriaid academaidd profiadol sy'n eistedd ar banel cyllido UKRI. Rwyt ti wedi adolygu cannoedd o gynigion am grantiau ar draws cynghorau ymchwil, gan gynnwys y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), AHRC, EPSRC, ac Innovate UK. Pan fydda i’n rhannu adran cynnig am grant neu ddrafft llawn â thi, dw i am i ti ei asesu fel y byddai adolygydd ar banel yn ei wneud. Sgoria bob un o'r meini prawf canlynol allan o 5 a rho gyfiawnhad byr ar gyfer pob sgôr: eglurder a chydlyniad yr achos am gymorth; ansawdd a dichonoldeb y fethodoleg arfaethedig; cryfder yr effaith a'r llwybrau i’r datganiad o’r effaith; tystiolaeth o hanes blaenorol a galluogrwydd y tîm; gwerth am arian a’r cyfiawnhad dros y gyllideb; y modd y mae’r cais yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r cyllidwr. Ar ôl sgorio, darpara: (1) y ddwy neu dair elfen gryfaf y byddai panel yn debygol o’u canmol; (2) y ddwy neu dair elfen wannaf sy'n fwyaf tebygol o achosi gwrthodiad; (3) gorchymyn blaenoriaeth awgrymedig ar gyfer adolygu os yw amser yn gyfyngedig. Bydd yn blwmp ac yn blaen. Paid â meddalu beirniadaeth.
Gwirio cynnig yn erbyn galwad cyllidwrAcademaidd
Cais: gludwch ddogfen galwad cyllidwr a'ch drafft chi, a gweld lle mae'r cynnig yn cyd-fynd â'r hyn y mae'r cyllidwr yn gofyn amdano, a lle nad yw’n gwneud hynny.
Rwyt ti’n strategydd cyllido ymchwil sydd â gwybodaeth drylwyr am gyllidwyr ymchwil yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys cynghorau UKRI, Innovate UK, Horizon Europe, Wellcome Trust, Ymddiriedolaeth Leverhulme, NIHR, a'r cyllidwyr Cymreig Medr ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Pan fydda i’n rhannu dau ddarn o destun, sef dogfen galwad cyllidwr ac adran o gynnig drafft, dw i am i ti ddadansoddi pa mor dda mae'r cynnig yn cyd-fynd â'r hyn y mae'r cyllidwr yn chwilio amdano mewn gwirionedd. Darpara’r canlynol: (1) rhestr o flaenoriaethau a meini prawf asesu datganedig y cyllidwr; (2) dyfarniad fesul blaenoriaeth ynghylch a yw'r cynnig yn mynd i'r afael â phob un (yn amlwg/yn rhannol/ddim o gwbl), gan gyfeirio at destun y cynnig; (3) iaith y cyllidwr ac ymadroddion allweddol o ddogfen yr alwad nad ydynt yn ymddangos yn y cynnig ond a ddylai; (4) awgrymiadau penodol ar gyfer lle y gellid mynd i'r afael â phob bwlch. Bydd yn fanwl gywir. Cyfeiria at eiriau go iawn y ddwy ddogfen.
Ysgrifennu gwell promptiau: y dull 1-2-3
Y Rheol Aur: Mae gwell mewnbynnau yn cyfateb i well allbynnau. Dilynwch y llif 3 cham hwn ar gyfer pob prompt i gael y canlyniadau gorau.
1.
Rhoi cyd-destun

Darparu gwybodaeth gefndir berthnasol (Rôl, Data, Adroddiadau).

👤 📊 🌐 📄
2.
Gwneud Cais

Byddwch yn benodol ynglŷn â'r union beth rydych am i'r AI ei wneud.

"Adolyga fy neges e-bost o ran eglurder ..."
3.
Esbonio’r Pwrpas

Rhannwch pam y mae arnoch angen hyn (Yr "Er Mwyn").

"... hyrwyddo'r siawns o ymateb cyflym."

Efallai y byddwch hefyd yn clywed hyn yn cael ei addysgu ar ffurf PTCFf: Persona, Tasg, Cyd-destun, Fformat. Dyma'r un syniad ac iddo labeli gwahanol: Persona a Chyd-destun yw cam 1 (rhoi cyd-destun), Tasg yw cam 2 (gwneud cais), ac mae Fformat yn dweud sut ffurf a ddylai fod i’r ateb. Mae pedwar o'r Promptiau Gweithle wedi'u hysgrifennu yn y siâp hwnnw’n union (maen nhw'n dechrau gyda Persona:), felly gallwch ei weld ar waith.

Trin AI fel aelod o’r tîm, nid peiriant gwerthu
Y Gwirionedd: Yn anaml y cewch chi ddrafft perffaith gan gyd-weithiwr y tro cyntaf. Peidiwch â disgwyl hynny gan AI chwaith. Mae'r hud yn yr hyn sy’n dilyn.
Osgoi
Y Peiriant Gwerthu

Mewnosod y prompt → disgwyl cyflawniad perffaith y tro cyntaf.

Mabwysiadu
Aelod o’r Tîm

Ailadroddwch gyda'ch gilydd: arwain, cywiro, mireinio nes ei fod yn glanio.

🤝 Y Meddylfryd

Dylech drin Gemini fel intern galluog, nid peiriant gwerthu.

Os nad yw'r allbwn yn iawn, peidiwch â dechrau o'r newydd. Siaradwch ag ef a'i arwain.

Rhowch gynnig ar yr ymadroddion dilynol hyn:
"A dweud y gwir, allet ti ei wneud yn fwy ffurfiol?"
"Mae hynny'n dda, ond beth pe baem yn ceisio dull mwy cyfeillgar?"
"Allet ti ehangu ar yr ail bwynt yna? Mae braidd yn rhy fyr."
Y cyd-destun yn dirywio: mae sgyrsiau hir yn gwneud mwy o gamgymeriadau
Y Realiti: wrth i sgwrs fynd yn hir, mae'r AI yn dechrau drifftio. Dechreuwch sgyrsiau newydd yn rheolaidd i'w gadw'n effro.

Y modd mae sgwrs yn dirywio:

Neges 5

Yn graff, yn canolbwyntio ar y dasg.

Neges 25

Yn dechrau ei ailadrodd ei hun.

Neges 45

Yn anghofio cyfarwyddiadau cynharach.

Neges 70

Yn gwrth-ddweud ei atebion ei hun.

Tri datrysiad:

  • Dechreuwch sgyrsiau newydd yn rheolaidd. Peidiwch ag aros i bethau fynd o'u lle: mae sgwrs newydd yn cadw'r cyd-destun yn fyr a'r model yn graff.
  • Pwnc newydd? Dechreuwch sgwrs newydd.
  • Wedi mynd oddi ar y cledrau? Rhedwch y prompt trosglwyddo isod, yna gludwch yr allbwn i mewn i sgwrs newydd.

Prompt trosglwyddo (rhedwch y prompt yn y sgwrs bresennol, yna copïwch yr allbwn i sgwrs newydd):

Paratoa drosglwyddiad y galla i ei ludo i mewn i sgwrs newydd. Rheolau: 1) pum bwled, un llinell yr un: penderfyniadau, ffeithiau allweddol, cyfyngiadau, cwestiynau agored, y camau nesaf, marcio unrhyw beth heb ei gadarnhau; 2) copïo unrhyw beth sy'n werth ei gadw (drafftiau, geiriad, rhestrau) air am air dan benawdau byr, dim ailysgrifennu nac uno; 3) gorffen gyda briff dwy linell: rôl y sgwrs newydd a'i thasg gyntaf. Dim is-bwyntiau bwled, dim sylwebaeth.
Gwell dau ben nag un: mynnwch farn ail AI
Y Realiti: yn anaml y mae AI yn gweld ei gamgymeriadau ei hun. Mae wedi’i angori wrth ei ateb cyntaf. Mae ail farn yn dal yr hyn a gollodd: gofynnwch i offeryn gwahanol (Copilot yn erbyn Gemini), neu dechreuwch sgwrs newydd yn yr un offeryn hyd yn oed.
🔀 Y gorau: offeryn gwahanol (Copilot yn erbyn Gemini)

Gludwch ateb Copilot i mewn i Gemini, neu Gemini i mewn i Copilot, a gofynnwch iddo ei adolygu. Maent wedi'u hadeiladu ar AI gwahanol, felly mae ganddyn nhw fannau dall gwahanol: mae’r naill yn dal yr hyn a gollodd y llall.

🔄 Neu: yr un offeryn, sgwrs newydd

Dim ail offeryn? Agorwch sgwrs newydd yn yr un sgwrs, gludwch yr allbwn yn unig, a gofynnwch am adolygiad beirniadol. Heb unrhyw gof o sut y cyrhaeddodd yno, mae'n beirniadu'r gwaith, nid ei resymu ei hun.

Prompt adolygu ailddefnyddiadwy:

Gweithreda fel ail farn feirniadol. Wnest ti ddim ysgrifennu'r testun isod, felly bydd yn wrthrychol. Gwiria am wallau ffeithiol, rhesymu gwan, gwybodaeth goll, ac unrhyw beth sy’n aneglur neu wedi’i orbwysleisio. Rhestra’r problemau penodol y byddi’n dod o hyd iddynt, yna rho i mi well fersiwn. Bydd yn blwmp ac yn blaen. [GLUDWCH YR ALLBWN YMA]

Pam y mae'n gweithio: mae AI yn tueddu i amddiffyn ei ateb cyntaf ac yn anaml y mae'n hunangywiro heb broc allanol. Mae offeryn gwahanol, neu sgwrs lân, yn dileu'r rhagfarn honno.

Cadwch y cyfan yn ddiogel: defnyddiwch offer a gymeradwyir gan TG yn unig, a pheidiwch byth â gludo data gwaith cyfrinachol (C1/C2) i offeryn nad yw wedi'i gymeradwyo.

Cadwyno eich offer gyda'i gilydd
Y syniad: mae allbwn un offeryn yn dod yn fewnbwn i'r nesaf. Mae pob offeryn yn gwneud y rhan y mae’n ei gwneud orau, ac rydych chi'n cario'r gwaith ar eu traws. Arbrofwch, oherwydd mae cadwyn fer yn aml yn curo un offeryn sy'n ceisio gwneud popeth.
1️⃣ Ymchwiliwch i hyn

Rhedwch y prompt Deep Research yn Gemini i gasglu'r dystiolaeth, ac ewch ati i’w hysgrifennu ar ffurf adroddiad.

2️⃣ Gosodwch y sail

Ychwanegwch yr adroddiad at NotebookLM ar ffurf ffynhonnell fel bod y cam nesaf wedi'i angori wrth eich deunydd, nid wrth waith dyfalu.

3️⃣ Lluniwch y cyflwyniad

Gofynnwch i NotebookLM ei droi'n ddec sleidiau. Mae un prompt ymchwil wedi dod yn gyflwyniad gorffenedig.

Pam y mae'n gweithio: nid oes un offeryn ar ei orau ym mhopeth. Mae pasio'r gwaith yn ei flaen yn caniatáu i bob un wneud ei waith cryfaf, a chi sydd wrth y llyw ym mhob cam. Cadwyn arall i roi cynnig arni: rhedwch Deep Research, yna gludo’r adroddiad i mewn i Canvas a'i lunio’n friff staff neu’n gwis.

Rhoi’r gorau i ailadrodd: cadw MegaDoc
Cysyniad: Rhowch y gorau i aildeipio'r un cefndir. Cadwch ddogfen Word o gyd-destun eich sefydliad a'i gludo i mewn i bromptiau.
🔤 Acronymau

e.e. "ICG = Yr Is-adran Canser a Geneteg"

✒️ Canllaw ar Arddull

"Ffurfiol ond cynnes. Cymraeg safonol. Pwyntiau bwled."

📋 Ffeithiau Allweddol

Personél, templed safonol, gweithdrefnau safonol.

🚀 Trosolwg o'r Prosiect

Nodau, statws, rhwystrau.

Rhowch gynnig ar hyn heddiw:

Rhestrwch eich 10 prif acronym ac un ciplun o’r prosiect. Gludwch i'ch prompt nesaf a gwyliwch y gwahaniaeth.

"Dyma rywfaint o gyd-destun o’m MegaDoc: [GLUDWCH EICH ACRONYMAU/CANLLAW AR ARDDULL YMA] Yn seiliedig ar y cyd-destun yma, drafftia neges e-bost sy’n cynnwys diweddariad i'r tîm am [Eich Pwnc] ..."
Sgwrsio â'ch dogfennau eich hun (NotebookLM)
Yr Offeryn: Mae NotebookLM yn gwreiddio AI yn eich dogfennau eich hun. Mae ein llyfrgell o bromptiau wedi'u curadu yn eich helpu i'w dadansoddi.
🎧 Trosolwg Sain

Trowch adroddiadau sych yn bodlediadau "Archwiliad Dwfn" diddorol.

🕵️ Dadansoddiad Beirniadol

Nodwch fannau dall, gwrthgyferbyniadau, a data coll.

🏗️ Allbwn Strwythuredig

Troswch nodiadau yn Ddeciau Sleidiau, Briffiau, a Gweithdrefnau Gweithredu Safonol.

Cael help AI gyda’r cod
Dwy ffordd o ddefnyddio AI ar gyfer y cod:
  • Sgwrsiwch: gludo y cod, gwallau, neu gwestiynau i mewn.
  • Asiant Codio: mae’n cysylltu â'ch system, a gall ddarllen, ysgrifennu a rhedeg ffeiliau. Defnyddiwch fodel lleol + uned brosesu graffeg (GPU) ddigonol i gadw data’n breifat.
Rhedeg AI yn breifat ar eich dyfais eich hun
Chi sydd Wrth y Llyw: Rhedwch AI ar eich dyfais eich hun. Preifatrwydd llwyr, dim ffioedd, Wi-Fi ddim yn angenrheidiol.
🛡️ Preifatrwydd a Rheoli
  • Nid yw data byth yn gadael eich dyfais.
  • Yn ddiogel ar gyfer deunydd sensitif.
  • Perchnogaeth lawn ar IP.
Cost ac Effeithlonrwydd
  • Dim ffioedd (modelau ffynhonnell agored).
  • Yn gweithio all-lein.
  • Llai o ddefnydd o ynni
🎓 Gweithdy AI Preifat

Sesiwn ddwyawr i’ch rhoi ar ben y ffordd ar eich gliniadur eich hun.

Cysylltwch â ni am fanylion →
NotebookLM

Deall unrhyw beth gyda NotebookLM

Rhan 2
Cliciwch i agor NotebookLM notebooklm.google.com ↗
Mewngofnodwch gyda'ch cyfrif Google, yna crëwch lyfr nodiadau ac ychwanegwch eich ffynonellau. Defnyddiwch eich cyfrif Prifysgol Caerdydd ar gyfer data gwaith.
1 Lanlwythwch eich ffynonellau
2 Dyfnhewch eich dealltwriaeth
3 Gofynnwch a chrëwch
🎧 Trosolwg Sain

Trowch adroddiadau sych yn bodlediadau "Archwiliad Dwfn" diddorol.

🕵️ Dadansoddiad Beirniadol

Nodwch fannau dall, gwrthgyferbyniadau, a data coll.

🏗️ Allbwn Strwythuredig

Troswch nodiadau yn Ddeciau Sleidiau, Briffiau, a Gweithdrefnau Gweithredu Safonol.

Ymarferol: adolygu cynigion grant (lanlwytho a chymharu)
Yr ymarfer: casglwch ychydig o gynigion o’r gorffennol: un wedi'i ariannu, un aflwyddiannus, sylwadau adolygydd. Lanlwythwch nhw i Gemini a rhedeg yr awgrymiadau isod. Yna ychwanegwch yr un ffeiliau at lyfr nodiadau NotebookLM a'u rhedeg eto. Cymharu: Mae NotebookLM yn glynu wrth eich dogfennau ac yn eu dyfynnu. Dim cynigion wrth law? Bydd unrhyw ddogfennau gwaith hir yn gwneud y tro.
1. Tynnwch allan y testun ailddefnyddiadwy: dewch o hyd i'r templed safonol y gallwch ei godi i'ch cais nesaf.
Dw i wedi lanlwytho un neu fwy o gynigion grant blaenorol. Noda’r holl adrannau sy'n cynnwys templed safonol sefydliadol ailddefnyddiadwy: er enghraifft disgrifiadau o amgylchedd ymchwil y brifysgol, datganiadau am gyfleusterau, datganiadau am y cyswllt ymgyfnewid data electronig (EDI), neu ddisgrifiadau safonol am fethodoleg. Ar gyfer pob adran, copïa’r testun a labela o ba ran o gynnig y daeth.
2. Dewch o hyd i'r hyn a weithiodd : y darnau mwyaf tebygol o fod wedi creu argraff ar adolygydd.
Wrth edrych ar y cynnig/cynigion a lanlwythwyd, noda’r ysgrifennu sydd fwyaf tebygol o fod wedi creu argraff ar adolygydd. Chwilia am: achos clir a chymhellol dros angen, dull fframio effaith cadarn, methodoleg wedi'i chyfiawnhau'n dda, a hanes blaenorol hyderus y tîm. Tynna’r paragraff neu'r darn cryfaf o bob un o'r meysydd hyn ac esbonia’n fyr pam y mae’n effeithiol.
3. Dewch o hyd i’r gwendidau : yr hyn y byddai adolygydd wedi rhoi marciau is iddynt.
Adolyga’r cynnig/cynigion sydd wedi’u lanlwytho a noda’r adrannau a oedd fwyaf tebygol o fod wedi achosi pryder i adolygydd neu ei siomi. Chwilia am: honiadau amwys ynghylch effaith, honiadau di-sail, disgrifiad gwan o fethodoleg, eitemau cyllideb heb eu cyfiawnhau, neu anghysondeb o ran blaenoriaethau cyllidwr tebygol. Rhestra bob gwendid ac awgryma beth y byddai fersiwn gryfach yn ei gynnwys.
4. Detholwch yr ymadroddion allweddol: lluniwch fanc cyfeirio ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol.
O'r cynnig/cynigion a lanlwythwyd, dethola’r ymadroddion allweddol, y derminoleg a'r iaith fframio a ddefnyddir. Ffurfia grwpiau ohonyn nhw dan: arwyddocâd ymchwil, methodoleg, effaith, galluogrwydd y tîm, a’r cyfiawnhad dros y gyllideb. Dw i’n dymuno defnyddio'r rhain fel cyfeirnod wrth ysgrifennu ceisiadau yn y dyfodol.
5. Crynhoi'r strwythur : gweld y sgerbwd a sylwi ar y bylchau.
Crynhoa strwythur y cynnig/cynigion a lanlwythwyd. Ar gyfer pob adran, noda’r canlynol: y pennawd a ddefnyddir, y cyfrif geiriau bras, y brif ddadl sy'n cael ei chyflwyno, a pha mor dda mae'n cysylltu â'r adran o’i blaen ac ar ei hôl. Tynna sylw at unrhyw fylchau neu adrannau strwythurol sy'n teimlo fel pe baent heb eu datblygu ddigon.

Rhowch gynnig ar y ddau brompt yma

Lanlwythwch eich ffynonellau i lyfr nodiadau yn gyntaf, yna gludwch brompt i'r blwch sgwrsio.

1. Briff Gweithredol: troi pentwr o ddogfennau yn grynodeb parod i reolwyr.
"Gweithreda fel uwch-ddadansoddwr. Darllen pob ffynhonnell a lanlwythwyd gennyf a llunia friff gweithredol ar gyfer rheolwr prysur. Cynhwysa’r canlynol: crynodeb tair brawddeg am sefyllfa; pum canfyddiad allweddol wedi'u rhestru yn ôl pwysigrwydd, pob un â dyfyniad o ffynhonnell; y prif opsiynau gyda'u cyfaddawdau; a dau gam gweithredu nesaf a argymhellir. Tynna sylw at unrhyw gwestiynau nad yw’r ffynonellau yn eu hateb"
2. Adolygydd Beirniadol : gwrthgyferbyniadau arwynebol, bylchau, a honiadau di-sail ar draws eich ffynonellau.
"Adolyga ar y cyd bob un o’r ffynonellau dw i wedi’u lanlwytho a gweithreda fel adolygydd beirniadol. Noda unrhyw wrthgyferbyniadau neu anghytundebau rhwng y ffynonellau, tynna sylw at fylchau pwysig neu dystiolaeth goll, a rhestra’r rhagdybiaethau nad ydynt yn cael eu cefnogi gan y dogfennau. Dyfynna’r ffynhonnell benodol ar gyfer pob pwynt."
Agorwch Lyfrgell Promptiau NotebookLM ↗
Gemini Deep Research

Nawr gall AI wneud eich chwiliadau Google ar eich cyfer

Rhan 3

Nid crafu wyneb ambell ddolen a dyfalu mae’n ei wneud. Mae'n darllen cannoedd o dudalennau'n gywir tra byddwch chi'n mynd ymlaen â gwaith arall, ac yna mae’n rhoi un adroddiad trefnus â dolen i bob ffynhonnell i chi.

1 Gofynnwch un cwestiwn clir
2 Mae'n darllen cannoedd o dudalennau
3 Byddwch yn cael un adroddiad seiliedig ar ffynonellau

Chi sydd wrth y llyw: cyn iddo ddechrau, mae Deep Research yn dangos ei gynllun ymchwil i chi, ac mae'r cynllun hwnnw'n olygadwy. Tynnwch allan y pynciau nad ydych yn poeni amdanynt, ychwanegwch fanylion, yna gosodwch ef i fynd.

Ar gyfer staff academaidd: ewch ati i gwmpasu maes cyn adolygiad o grant neu gwricwlwm

Agorwch Gemini, trowch Deep Research ymlaen, a gludwch hwn. Cyfnewidiwch hwn am eich maes a'ch sefydliad eich hun.

Dw i'n academydd ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n paratoi i ysgrifennu cynnig ymchwil a diweddaru cwricwlwm fy modiwl. Mae arnaf angen trosolwg strwythuredig o sefyllfa bresennol yr ymchwil i offer AI mewn addysgeg addysg uwch. Ymchwilia i hyn a llunia adroddiad sy'n cwmpasu: 1. Y dadleuon allweddol yn y maes: beth y mae ymchwilwyr yn anghytuno yn ei gylch ar hyn o bryd neu wrthi’n ymchwilio iddo? 2. Y canfyddiadau cyhoeddedig pwysicaf o'r tair blynedd ddiwethaf ar sut y mae AI cynhyrchiol yn newid addysgu, dysgu ac asesu mewn prifysgolion. Mae'r maes hwn yn symud yn gyflym, felly pwysola d’ateb tuag at waith o'r 12 mis diwethaf. Cynhwysa astudiaethau penodol lle bo'n bosibl. 3. Y prif fylchau yn y sylfaen dystiolaeth bresennol: pa gwestiynau sy'n parhau heb eu hateb y gallai cynnig ymchwil newydd fynd i'r afael â nhw? 4. Y cyd-destun polisi yn y DU: beth y mae Medr, UKRI, neu'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd wedi'i gyhoeddi ar AI ym maes addysg uwch y dylai academydd fod yn ymwybodol ohono? 5. Tri i bum cwestiwn ymchwil penodol sy’n cael eu tanariannu ar hyn o bryd neu nad ydynt yn cael eu harchwilio ddigon, ac a allai ffurfio’r sail i gais am grant cystadleuol. 6. Y goblygiadau ymarferol ar gyfer cwricwlwm fy modiwl: yn seiliedig ar y canfyddiadau hyn, beth y dylwn i ei ystyried wrth ddiweddaru cynnwys fy nghwrs, dulliau asesu, ac ymarfer addysgu i adlewyrchu’r modd mae AI yn newid addysg uwch? Dyfynna dy ffynonellau drwyddi draw er mwyn i mi allu gwirhau a mynd ar drywydd y rhai mwyaf perthnasol.

Ar gyfer gwasanaethau proffesiynol: briff ar y farchnad myfyrwyr ryngwladol

Yr un camau. Mae hwn yn cwmpasu marchnad ar gyfer cynllunio strategol yn hytrach na maes ymchwil.

Dw i'n gweithio ym maes gwasanaethau proffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gefnogi prosesau recriwtio myfyrwyr rhyngwladol a chynllunio strategol. Mae arnaf angen briff ar y farchnad i lywio ein strategaeth recriwtio ar gyfer y derbyniad nesaf. Ymchwilia i hyn a llunia adroddiad sy'n cwmpasu: 1. Y tueddiadau cyfredol mewn recriwtio myfyrwyr rhyngwladol i brifysgolion y DU: pa darddwledydd sy'n tyfu, pa rai sy'n dirywio, a pham. 2. Y ffactorau sy'n siapio’r galw am brifysgolion Cymru yn benodol: lle mae Cymru’n cael ei gosod o gymharu â gweddill y DU, gan gynnwys unrhyw wahaniaethau o ran polisi, fisa, neu ariannu datganoledig sy'n effeithio ar fyfyrwyr rhyngwladol. 3. Y dirwedd gystadleuol: sut y mae Caerdydd a phrifysgolion eraill Cymru yn cymharu â sefydliadau tebyg yn y DU o ran niferoedd y myfyrwyr rhyngwladol, y ffioedd, a chryfderau pynciau mewn perthynas â nhw. 4. Y cyd-destun polisi a rheoleiddio: penderfyniadau diweddar Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar fisâu myfyrwyr, y Llwybr Graddedigion, a’r strategaeth addysg ryngwladol a allai effeithio ar recriwtio. 5. Tri i bum cyfle neu risg ymarferol y mae'r briff yn awgrymu y dylem gynllunio ar eu cyfer, ynghyd â'r dystiolaeth sy’n sail i bob un. Dyfynna dy ffynonellau drwyddi draw er mwyn i mi allu gwirhau a mynd ar drywydd y rhai mwyaf perthnasol.

Yna ailddefnyddio'r adroddiad

🎙️ Sain

Troi’r adroddiad yn bodlediad dau berson i wrando arno wrth fynd.

🌐 Tudalen we

Creu tudalen lân, ranadwy ar gyfer cleientiaid neu randdeiliaid.

📊 Ffeithlun

Trosi trwch o ffigurau a dyddiadau cau yn rhywbeth gweledol sganiadwy.

Nano Banana

Delweddau gwaith sy'n gweithio’n go iawn

Rhan 4

Nano Banana (ie, dyma'r enw’n go iawn) yw'r offeryn delweddau sydd wedi'i adeiladu i mewn i Gemini. Mae'n trwsio'r ddau beth y mae offer delweddau bob amser yn eu bwnglera: gall roi testun cywir, darllenadwy y tu mewn i ddelwedd, a gall olygu llun sydd gennych eisoes heb ddifetha'r gweddill ohono.

📈 Nodiadau i'r diagram

Gludwch fwledi bras, a chael eitem weledol lân ar gyfer sleid, poster neu adroddiad.

✂️ Golygu'r hyn sydd gennych

Cyfnewid cefndir, dileu annibendod neu gywiro'r testun ar ddelwedd sydd eisoes yn bodoli.

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Posteri dwyieithog

Gofynnwch am fersiwn Gymraeg o boster: mae’n cyfieithu’r testun y tu mewn i’r ddelwedd.

🖼️ Delweddau wedi'u gwneud i'r pwrpas

Delwedd pennawd ar gyfer adroddiad neu dudalen fewnrwyd, heb yr helfa am luniau stoc.

Rhowch gynnig ar y ddau hyn

Nid oes angen dim ond eich nodiadau ar y cyntaf. Ar gyfer yr ail, lanlwythwch ddelwedd (poster, sleid, llun) ynghyd â'r prompt.

Crea ddiagram glân, syml y gallaf ei ollwng yn syth i mewn i sleid PowerPoint. Cefndir gwyn, un lliw pwyslais, labeli darllenadwy mawr, dim annibendod. Dylai ddangos y broses hon: [GLUDWCH EICH PWYNTIAU BWLED BRAS YMA]
Dyma boster ein digwyddiad. Cadw’r cynllun, y delweddau a'r arddull yn union fel y maent, ond newidia’r dyddiad i [DYDDIAD NEWYDD] a chywira unrhyw gamgymeriadau sillafu. Yna crea ail fersiwn gyda'r holl destun wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg.

Un arfer cyn i unrhyw beth fynd allan trwy'r drws: darllenwch bob gair mewn delwedd AI yn ofalus, a chymerwch ofal ychwanegol yn achos lluniau o bobl a lleoedd go iawn.

Gemini Canvas

Drafftio, yna siapio

Rhan 4

Mae Canvas yn troi sgwrs yn ddogfen orffenedig, un y byddech yn ei hanfon yn go iawn. Dewch o hyd iddo yn y ddewislen offer dan y blwch lle rydych yn teipio. Mae eich drafft yn agor wrth ymyl y sgwrs: tynnwch sylw at unrhyw frawddeg, dywedwch beth sydd i gael ei newid, a dim ond y rhan honno a fydd yn cael ei hailysgrifennu.

1 Agorwch Canvas, gludwch eich nodiadau
2 Byddwch yn cael drafft cyntaf llawn
3 Amlygwch a mireiniwch y drafft linell wrth linell
Tro fy nodiadau bras isod yn friff un dudalen ar gyfer staff. Saesneg plaen, teitl clir, tair adran fer â phenawdau, a rhestr o "yr hyn y bydd angen i chi ei wneud" ar y diwedd. [GLUDWCH EICH NODIADAU NEU DDOGFEN BOLISI YMA]

Yna rhowch gynnig ar yr elfen hud: amlygwch un paragraff a theipio "gwna hwn yn fwy cyfeillgar". Pan fydd y drafft yn iawn, dywedwch, "Dw i am i ti droi hwn yn gwis pum cwestiwn i brofi fy nhîm" a gwyliwch AI yn llunio un.

Gall Canvas hefyd adeiladu offer gweithio bach

Disgrifiwch yr offeryn y mae arnoch ei eisiau a bydd Canvas yn ei ysgrifennu ac yn ei ragolygu’n fyw. Nid oes angen i chi ddarllen y cod byth. Dau i roi cynnig arnynt:

Ar gyfer gwasanaethau proffesiynol: amcangyfrifyn hawliadau am dreuliau.
Gweithreda fel datblygwr gwe arbenigol. Mae arnaf angen cymhwysiad HTML un dudalen gan ddefnyddio Tailwind CSS a Vanilla JavaScript. Adeilada 'Amcangyfrifyn Hawliadau am Dreuliau' ar gyfer staff y brifysgol. Dylai fod â mewnbynnau ar gyfer parthau teithio (e.e. y DU, Ewrop, Rhyngwladol), nifer y nosweithiau, a thogl ar gyfer 'gyda derbynebau' o gymharu â 'cyfradd safonol y dydd'. Dylai gyfrifo cyfanswm yr hawliad amcangyfrifedig mewn modd dynamig, a hynny’n seiliedig ar gyfraddau prifysgol ffug safonol wrth i fewnbynnau newid. Cynhwysa fotwm i 'Cynhyrchu Crynodeb ar gyfer Cyllid'. Gwna’n siŵr bod yr holl JavaScript wedi'i gynnwys yn yr un ffeil HTML. Gwna iddo edrych yn lân ac yn fodern, gyda chynllun lliw glas a gwyn proffesiynol.
Ar gyfer addysgu a dysgu: delweddwr cysyniadau rhyngweithiol.
Gweithreda fel datblygwr gwe arbenigol a dylunydd addysgu. Crea ap gwe HTML un dudalen gan ddefnyddio Tailwind CSS a Vanilla JavaScript i addysgu myfyrwyr seicoleg am y Dosraniad Normal (cromlin cloch). Cynhwysa lithryddion rhyngweithiol sy'n caniatáu i'r defnyddiwr addasu'r 'Cymedr' a'r 'Gwyriad Safonol'. Cynhwysa elfen gynfas sy'n ail-lunio'r gromlin cloch mewn modd dynamig ar sail mewnbynnau’r llithryddion. Ychwanega ddisgrifiadau testun byr sy'n esbonio beth y mae gwyriad safonol yn ei olygu’n go iawn mewn Saesneg plaen, gan ddiweddaru hyn mewn modd ddynamig os yn bosibl. Dylai'r dyluniad fod yn lân, yn ddiddorol, yn hygyrch, a heb fod yn gofyn am unrhyw asedau allanol heblaw am Tailwind trwy CDN.
Cyn i chi fynd

AI Cyfrifol a'ch Map Ffordd AI

🤝 Dynol-Ganolog
  • Ehangwch, peidiwch â disodli.
  • Diogelwch sgiliau beirniadol.
  • Targedwch dasgau ailadroddus gyntaf.
Gwiriadau Ymarferol
  • Gwiriwch yr allbwn ddwywaith bob tro.
  • Byddwch yn dryloyw. "Defnyddiais AI ar gyfer hyn."
  • Defnyddiwch offer a gymeradwyir gan TG yn unig.
⚖️ Cyfrifoldeb
  • Cadwch olwg am ragfarn a rhithweledigaethau.
  • Chi piau’r canlyniad, nid yr AI.
  • Defnyddiwch AI yn unol â'ch gwerthoedd.
Does neb yn gwybod popeth am AI. The AI Community Approach. 📄 Darllenwch ein papur ↗
🧠 Meddylfryd

Byddwch yn chwilfrydig. Gofynnwch: "A allai hyn fod yn ddefnyddiol?"

💬 Sgyrsiau

Dysgu a rennir, ennill, a methu.

🧪 Arbrofion

Dysgu trwy wneud Adeiladu arbenigedd.

🤝 Cymuned

Rhannwch atebion a chadwch yn ystwyth, gyda'ch gilydd.

Ewch ag Ef Adref

Dewch ag 'AI yn y Gweithle' i'ch tîm

Dwy ffordd o rannu'r hyn rydych wedi'i ddysgu heddiw.

Cwestiynau?

Am i ni gyflwyno'r gweithdy ar eich safle neu hyfforddi eich hyfforddwyr?